|
||
Glamorgan Learner's Eisteddfod 13 March 2009 Nos Wener 13 Mawrth cynhaliwyd eisteddfod lwyddiannus iawn yng nghanolfan gydol oes Gartholwg. Roedd mwy nag erioed o ddysgwyr a chefnogwyr wedi dod ynghyd i gefnogi’r noson ac roedd yn hyfryd gweld y theatr dan ei sang. Cafwyd cystadlu brwd ac o safon uchel iawn - ar y llwyfan ac ar y cystadlaethau llenyddol yn ogystal â chystadlaethau celf, coginio, crefft. Gobeithio bydd rhai fuodd yn cystadlu yn ein heisteddfod ni yn mynd ymlaen nawr i gystadlu mewn cystadlaethau i ddysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym mis Awst. |
||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
![]()