“’Dw i’n mwynhau darllen yn fy amser hamdden ac un diwrnod, gobeithio, bydd mwy o lyfrau ar gael i fi gan y byddaf i’n gallu darllen llyfrau Cymraeg.”

Samantha, Abernant

Glamorgan Welsh for Adults Centre

Croeso i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg.

Mae’r Ganolfan yn un o chwe chanolfan yng Nghymru sy’n gyfrifol am gydlynu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y gymuned a gwneud yn siŵr bod dosbarth o fewn cyrraedd i bawb yn yr ardal.

Mae’r Ganolfan, a leolir ym Mhrifysgol Morgannwg, yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, a Phen-y-bont ar Ogwr. Ein nod yw darparu cyrsiau o safon uchel a darparu cyfleoedd i ddysgwyr ar bob lefel ddysgu a defnyddio’r iaith.

Mae ein tîm o diwtoriaid wedi cynllunio cyrsiau’n ofalus i gwrdd ag anghenion pob lefel a disgwyliadau dysgwyr.

Yn ystod arolwg ESTYN yn 2005, dyfarnwyd gradd 1 ar gyfer cyflawniad ein dysgwyr – y radd uchaf bosibl.

Mae’r addysgu ar y cyrsiau’n adlewyrchu’r brwdfrydedd ac anogaeth sy’n deillio o’r Ganolfan. Mae’r tiwtoriaid yn cefnogi’r dysgwyr wrth iddynt fynd trwy ystod y cyrsiau, ond hefyd yn ymroi i ddarparu cyfleoedd i wneud i’r dysgwyr deimlo’n hyderus i ddefnyddio eu sgiliau ieithyddol newydd y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Mae’r Ganolfan yn darparu ar gyfer pob oedran a phob lefel – o ddechreuwyr pur hyd at siaradwyr rhugl sydd am wella eu Cymraeg ysgrifenedig.

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn y gymuned, ewch i’r tudalen cyrsiau neu cysylltwch â ni yn y Ganolfan.

Rydyn ni hefyd yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau Cymraeg yn y Gweithle sy’n gallu cael eu teilwra ar gyfer pob gweithle, a chyrsiau sy’n canolbwyntio ar anghenion rhieni sy’n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg.

Dysgu wrth fyw ym Morgannwg

Menter gan Lywodraeth Cynlliad Cymru Y mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg yn rhan o Brifysgol Morgannwg

Ein Polisiau | Swyddi Gwag | Cysylltwch â Ni

Prifysgol Morgannwg a colegau partneriaethol
Pontypridd, Cymru DU CF37 1DL

The Learning Centre