Mae ffigurau diweddar yn dangos fod mwy a mwy o bobl yn siarad Cymraeg.
Mae nifer o resymau am hyn, gan gynnwys y ffaith fod pob plentyn yng
Nghymru yn mynd i ysgol Gymraeg neu ddi-Gymraeg yn siarad neu’n
dysgu’r iaith lan at o leiaf 16 oed. Mae’r iaith yn fyw
mewn trefi a phentrefi ledled Cymru ac mae i’w gweld a’i
chlywed ym mhobman.
Mae nifer y dysgwyr Cymraeg hefyd ar gynnydd gan gynnwys plant meithrin
yn sgwrsio â Mam-gu a Tad-cu yn Gymraeg.
Mae rhai yn dysgu Cymraeg achos eu bod nhw wastad
wedi bod eisiau ac maen nhw’n gwerthfawrogi’r profiadau newydd sy’n dod
yn sgil dysgu’r iaith. Un o’r prif resymau mae pobl yn ail
ddysgu Cymraeg neu’n ymuno â dosbarth i oedolion yw eu bod
nhw wedi dewis addysg Gymraeg i’w plant. Rheswm arall dros ddysgu
yw fod mantais i’w chael wrth gynnig am swydd, yn enwedig yn y
sector cyhoeddus ble mae’n rhaid cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng
y ddwy iaith erbyn hyn. Mae pobl eraill yn dysgu er mwyn dod i ddeall
diwylliant a hanes Cymru’n well ac i ddod yn rhan o’r Gymru
ddwyieithog newydd.
Mae dysgu’r iaith yn galluogi pobl i ehangu’u gorwelion – yn
y gwaith ac yn gymdeithasol mewn cylchoedd newydd. Felly, mae cynnig
gwasanaethau a chefnogaeth i ddysgwyr yn hanfodol i sefydliadau yng
Nghymru. Mae dysgwyr yn gallu ymlacio gartref a pharhau i ddysgu wrth
wylio S4/C neu wrth wrando ar Radio Cymru, neu ymuno yn hwyl a sbri
y digwyddiadau diddorol sy’n cael eu trefnu ledled Cymru ar gyfer
dysgwyr a siaradwyr Cymraeg; o ddigwyddiad cenedlaethol fel yr Eisteddfod
i weithgareddau lleol sy’n cael eu cynnal bob wythnos yn y gymuned.
Am fwy o fanylion am weithgareddau lleol, ewch i’n tudalen
digwyddiadau.
Am ragor o wybodaeth am Y Gymraeg, dilynwch y cysylltiadau
canlynol: