Courses

Mae’r cyrsiau ar gael ar 5 lefel yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg – yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, a Phen-y-bont ar Ogwr. Gellwch hefyd ddewis cyflymder y cwrs – mae tri phrif fath. Mae’n amlwg yn well mynychu cymaint o sesiynau â phosibl bob wythnos. Dydy cwrs sy’n cwrdd dair gwaith yr wythnos ddim yn fwy anodd, mae’n golygu eich bod yn dysgu’r iaith yn gyflymach.

Mae’r lefelau’n cydymffurfio â’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer cyrsiau Cymraeg i Oedolion ac mae’r cyflymder yn cyfeirio at nifer y sesiynau bob wythnos.

Beth yw fy lefel i?

Mynediad: Mae’r pwyslais ar ddysgu sgwrsio. Mae’r nodau dysgu yn cynnwys trafod manylion personol a digwyddiadau yn y gorffennol.

Sylfaen: Cyfle i ehangu ar eich sgiliau llafar. Ymhlith y nodau dysgu mae trafod y teulu, gwaith a diddordebau.

Canolradd: Mae’r pwyslais yn dal i fod ar siarad, ond mae ychydig o waith ysgrifennu, darllen a gwrando yn ogystal. Dylech chi deimlo’n gyfforddus yn cynnal sgwrs ar bynciau pob dydd erbyn diwedd y lefel.

Uwch: Mae’r cwrs yn dal i ganolbwyntio ar sgiliau llafar, ond dych chi hefyd yn cael eich cyflwyno i radio, teledu a phapurau newydd Cymraeg. Mae’r cwrs hefyd yn eich helpu i ysgrifennu’n hyderus. Ffoniwch i gael cyngor pa gwrs o fewn y lefel fydd orau i chi.

Hyfedredd: Mae’r lefel hon ar gyfer siaradwyr iaith gyntaf a dysgwyr rhugl sydd am loywi eu sgiliau – naill ai ar lafar trwy gyfoethogi geirfa a thrafod pynciau arbenigol, neu ar bapur wrth ddysgu ysgrifennu’n gywir ac yn raenus.

Pa mor aml ydw i eisiau mynd i ddosbarth?

Mae’n bosib dod o hyd i gwrs sy’n cwrdd unwaith, dwywaith neu dair gwaith yr wythnos – beth bynnag sy orau i chi.

Hamddenol: Beth bynnag yw lefel eich cwrs, bydd yn golygu mynychu dosbarth unwaith yr wythnos dros gyfnod o ddwy flynedd.

Cymedrol: Bydd y dosbarth yn cwrdd ddwywaith yr wythnos ac felly byddwch chi’n dysgu siarad yn gyflymach.

Dwys: Mae’r cyrsiau hyn yn ffordd effeithiol iawn o ddysgu’r iaith gan y byddwch yn mynychu dosbarth dair gwaith yr wythnos.

Menter gan Lywodraeth Cynlliad Cymru Y mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg yn rhan o Brifysgol Morgannwg

Ein Polisiau | Swyddi Gwag | Cysylltwch â Ni

Prifysgol Morgannwg a colegau partneriaethol
Pontypridd, Cymru DU CF37 1DL | © Prifysgol Morgannwg

Courses

Chwilio am gwrs

Mae rhywbeth addas i bawb!