|
||
Dyma atebion i ambell gwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml ynglŷn â dysgu Cymraeg: Fydd dysgu mwy nag un iaith yn cymysgu plentyn ifanc? Alla i helpu mhlentyn gyda’i Gymraeg os dwi ddim yn siarad Cymraeg fy hunan? Fydd dysgu mwy nag un iaith yn cymysgu plentyn ifanc? Na fydd. Yn y gorffennol roedd rhieni’n cael eu hannog i beidio â siarad mwy nag un iaith â phlentyn rhag ei gymysgu ( nid yn unig yng Nghymru – digwyddodd hefyd mewn nifer o wledydd eraill gan gynnwys America). Ers blynyddoedd bellach, mae tystiolaeth i brofi po gynharaf mae plentyn yn codi ail iaith hawsaf yw hi iddo/i. Bydd plentyn bach yn gallu newid o un iaith i’r llall heb sylweddoli p’run yw p’run ar adegau ac yn sicr bydd yn gwybod geiriau mewn un iaith a ddim yn y llall – ond buan iawn bydd y bylchau geirfaol yn cau. Peidiwch â cholli’r cyfle i roi’r fraint o ddwyieithrwydd i’ch plentyn! Alla i helpu mhlentyn gyda’i Gymraeg os dwi ddim yn siarad Cymraeg fy hunan? Gellwch! Mae ‘na lawer o bethau gellwch chi’u gwneud: |
||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
![]()