Welsh for the Family

Ein hamcan yw hybu defnyddio’r Gymraeg yn y cartref yn ogystal ag yn yr ysgol – ymysg brodyr a chwiorydd, rhieni a’u plant, mamguod a thadcuod a’u hwyrion a’u hwyresau. Mae gennym amrywiaeth o ffyrdd i gyflawni’r nod hwn:

  • Darparu dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion i helpu rhieni ddysgu Cymraeg
     
  • Cydlynu ag ysgolion i drefnu cyrsiau ‘blasu’ i rieni: nod y rhain yw dysgu nifer o eiriau ac ymadroddion sylfaenol, cyflwyno gemau a gweithgareddau i’w defnyddio gyda’r plant, ac annog rhieni i ymuno â chwrs Cymraeg i Oedolion ar ôl y cwrs blasu.
     
  • Trefnu digwyddiadau unwaith-yn-unig mewn cydweithrediad â’r Mudiad Ysgolion Meithrin, y Mentrau Iaith a sefydliadau eraill.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag: Owen Saer Swyddog Datblygu Cymraeg i’r Teulu: e-bost: OSaer@glam.ac.uk, teleffon: 07740 760497.

Y Cyfnodau Allweddol

Mae’r Cyfnodau Allweddol yn rhychwantu pedwar grŵp oedran. Yn ystod pob Cyfnod Allweddol, bydd myfyrwyr yn sefyll Profion Asesu Cenedlaethol er mwyn monitro eu cynydd. Mae cynlluniau i ehangu’r gyfundrefn hon i gynnwys asesu anffurfiol ar gyfer plant 5 oed.

Mae’r tabl yn dangos yr hyn a ddysgir, a phryd:

Cyfnodau Allweddol 1 a 2

Cyfnodau Allweddol 3 a 4

Cymraeg neu Saesneg

Cymraeg neu Saesneg

Mathemateg

Mathemateg

Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth

Cynllunio a Thechnoleg

Cynllunio a Thechnoleg

Technoleg Gwybodaeth

Technoleg Gwybodaeth

Hanes

Hanes

Daearyddiaeth

Daearyddiaeth

Ieithoedd Tramor Modern

Celf

Celf

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Addysg Gorfforol

Addysg Gorfforol

Y Blynyddoedd Cynnar: Rhan hanfodol o broses ddysgu plant bach…

Yn y cyfnod Meithrin, bydd plant o gartrefi Saesneg sy’n mynychu meithrinfa Gymraeg yn dod i ddeall yr iaith yn gyflym. Byddant yn gallu ymuno â chaneuon, dilyn amrywiaeth o gyfarwyddiadau, gan, efallai, enwi rhai gweithredoedd, mathau o dywydd, teganau, lliwiau a geiriau eraill fydd yn codi’n gyson yn y feithrinfa. Bydd y mwyafrif, fodd bynnag, yn llai rhugl yn y Gymraeg nag yn y Saesneg, ac yn dueddol o ymateb gydag un gair – a hynny ar ôl cryn anogaeth.

Bydd plant yr oedran hwn gan amlaf yn ddigon parod i drafod pethau a welant yn digwydd o’u cwmpas, ond anodd iddynt siarad am y gorffennol na’r dyfodol (yn eu hiaith gyntaf, heb sôn am ail iaith!). Soniodd un fam iddi holi ei merch yn Saesneg beth a gafodd yn ginio’r diwrnod hwnnw – a’r ateb Cymraeg oedd ‘cinio’!

Gwelir cryn newid o fewn blwyddyn, fodd bynnag. Erbyn i’r plentyn gyrraedd oedran Derbyn, bydd yn gallu cynnig atebion estynedig yn y Gymraeg, ac yn debygol o gychwyn sgwrs. Bydd oedran, personoliaeth a nifer o ffactorau eraill yn effeithio ar ba mor siaradus y bydd plentyn; wrth reswm, bydd rhai yn datblygu’n gynt na’i gilydd. Os bydd Mam, Dad, Mamgu neu Dadcu’n rhoi cynnig ar siarad Cymraeg, mae’n ddigon posibl y bydd yn plentyn yn camu i rôl yr athro – pan fydd wedi arfer â’u clywed yn siarad iaith wahanol i’r arfer!

Menter gan Lywodraeth Cynlliad Cymru Y mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg yn rhan o Brifysgol Morgannwg

Ein Polisiau | Swyddi Gwag | Cysylltwch â Ni

Prifysgol Morgannwg a colegau partneriaethol
Pontypridd, Cymru DU CF37 1DL

Welsh for the Family

Y Cyfnodau Allweddol

Cyfnod allweddol 1
Oedran 5 i 7
Blynyddoedd ysgol 1 a 2.

Cyfnod allweddol 2
Oedran 7 i 11
Blynyddoedd ysgol 3 i 5.

Cyfnod allweddol 3
Oedran 11 i 14
Blynyddoedd ysgol 6 i 9.

Cyfnod allweddol 4
Oedran 14 i 16
Blynyddoedd ysgol 10 a 11.