|
||
Yma yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg mae tîm o diwtoriaid ymroddedig sy’n gweithio gyda nifer helaeth o sefydliadau o bob sector ac sy’n darparu cyrsiau penodol ar gyfer dysgwyr yn eu gweithleoedd. Bydd y tiwtoriaid yn gallu strwythuro cyrsiau addas ar gyfer pob gweithle. Byddan nhw’n cydweithio’n agos gyda phob cwsmer er mwyn datblygu llwybrau dysgu addas ac effeithiol cyn cychwyn ar y gwaith o ddysgu. Mae’r safonau ym mhob gweithle yn amrywio felly mae’r tîm yn hollol ymwybodol o’r angen i ddarparu ar gyfer ardaloedd, cefndiroedd ac anghenion swyddi penodol. Trwy fynychu gwersi o fewn y gweithle bydd aelodau eich staff yn teimlo’n gartrefol ac yn awyddus i ddysgu. Byddan nhw hefyd yn gallu manteisio ar y cyfleoedd i ymarfer a datblygu eu medrau y tu hwnt i’r gwersi, gan ddod yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Bydd aelodau eich staff yn derbyn e-bost wythnosol a fydd yn ymwneud â’u gwaith, gan gynnwys geirfa ac ymadroddion perthnasol. Mae ein cyrsiau Cymraeg yn y Gweithle ar gael i gwmnïau a sefydliadau o bob rhan o Gymru. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, cysylltwch â Annalie Price — Swyddog Cymraeg yn y Gweithle ar 01443 483600 neu aprice1@glam.ac.uk |
||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
![]()